Freelancer typing on laptop in the coffee house
 

Pedwar cam i gryfhau eich strategaeth ddigidol  

Last updated: 3rd September 2024

Dyma Mark Price, Cyfarwyddwr Datblygu Busnes Pugh Computers Ltd yn edrych yn ôl ar y pethau allweddol a ddaeth allan o’u sesiwn ddiweddar yn gofod3 ar Microsoft Modern Workplace a Deallusrwydd Artiffisial (AI).

Yn dilyn ein sesiwn yn gofod3 ym mis Mehefin, roeddwn eisiau dilyn i fyny â rhai camau ymarferol clir y gall mudiadau gwirfoddol yng Nghymru eu cymryd (am ddim!) heddiw i ddechrau arloesi gyda Microsoft Modern Workplace a Copilot AI (Deallusrwydd Artiffisial).

COFLEIDIWCH DDYFODOL GWAITH GYDA MICROSOFT 365!

Yn gyntaf, os ydych chi’n defnyddio Microsoft Office ar safle, boed hwnnw’n Office 2021, 2019 neu hyd yn oed 2016 (sydd bron yn ddeg oed bellach!), byddwn yn eich argymell yn gryf i symud i’r cwmwl, sef naill ai Microsoft 365 neu Office 365.

Mae symud i’r cwmwl yn cyflwyno buddion ar unwaith, gan gynnwys gallu storio ffeiliau’n hawdd yn y cwmwl a gallu defnyddio Office ar wahanol ddyfeisiau, fel cyfrifiaduron personol bwrdd gwaith, gliniaduron, llechi a ffonau clyfar – gall eich staff a’ch gwirfoddolwyr fewngofnodi o unrhyw le! Hyd yn oed os nad ydych wedi gosod apiau Office 365 ar ddyfais benodol, gallwch fewngofnodi a defnyddio’r apiau o hyd drwy borwr gwe ar y mwyafrif o ddyfeisiau, a thrwy storio popeth ar y cwmwl, gallwch chi gael gafael ar eich ffeiliau’n ddiogel o unrhyw le.

Ac ar ben apiau Office 365 a’r storfa yn y cwmwl, mae Microsoft 365 hefyd yn rhoi Windows i chi, ynghyd â’r holl adnoddau diogelwch ychwanegol sy’n amhrisiadwy i fudiadau gwirfoddol heb eu timau TG a/neu seiberddiogelwch pwrpasol eu hunain.

A gorau oll, mae grantiau a disgowntiau nid-er-elw unigryw ar gael i drwyddedau Microsoft a chredydau Azure, sy’n gwneud yr holl adnoddau hyn yn fwy fforddiadwy a hygyrch nag erioed i fudiadau gwirfoddol yng Nghymru.

*Gwyliwch adran Modern Workplace ein sesiwn gofod3 i ddarganfod mwy

MICROSOFT COPILOT – EICH CYFAILL AI BOB DYDD!

Rydym i gyd wedi bod yno…pan fydd gennym gais grant i’w gwblhau erbyn y bore a dim syniad ble i ddechrau, neu pan fydd angen i ni gyflwyno’r cynllun codi arian diweddaraf, ond y cwbl y gallwn ni ei wneud yw rhythu ar sleidiau gwag. Ac yn y byd sydd ohoni heddiw, mae pob un ohonom wedi ymuno’n hwyr â chyfarfod o bell a theimlo ar goll heb wybod beth sydd wedi’i drafod.

Gan ddefnyddio Copilot for Microsoft 365, gallwch lunio dogfennau Word manwl, creu cyflwyniadau PowerPoint diddorol, crynhoi cyfarfodydd Teams ac edeifion e-bost, a llawer mwy mewn mater o eiliadau, a chyflwyno ffeiliau gwaith a data, i gyd o fewn terfynau diogel eich amgylchedd Microsoft 365.

Mae Copilot wedi’i ddylunio i fod yn gyfaill AI bob dydd i chi, sy’n golygu y gallwch hefyd sgwrsio ag ef i ddatblygu syniadau a gofyn cwestiynau, ac ailymweld â’r sgyrsiau hynny ar unrhyw adeg er mwyn treiddio ymhellach neu ofyn pam. A phan fyddwch chi’n defnyddio data gwaith yn hytrach na’r hyn sydd ar y we yn unig, daw Copilot yn adnodd busnes pwerus i ddatblygu a phrawf-ddarllen strategaethau codi arian pwrpasol, cynigion grant, disgrifiadau rôl gwirfoddolwyr a llawer mwy.

Gallwch ddefnyddio fersiwn am ddim y we o Microsoft Copilot ar unwaith, ac argymhellaf hwn fel ffordd dda o gyfarwyddo’ch hun ag ef a gweld beth y mae’n gallu ei wneud. Ond er mwyn manteisio i’r eithaf ar yr integreiddiadau ag apiau Office a ffeiliau gwaith, nid yw’r swyddogaeth hon ar gael gyda fersiynau ar safle fel Office 2021, mae angen yr Office 365 sydd yn y cwmwl.

Y ffordd fwyaf effeithiol rwyf wedi gweld mudiadau yn dechrau defnyddio Copilot for Microsoft 365 yw trwy brynu cwpwl o drwyddedau i staff allweddol roi cynnig arno. Yna, ymhen amser, cyflwyno Copilot i adran o 5-10 unigolyn fel y gallant roi cynnig arno fel tîm. Mae hyn yn annog cydweithio; dyma pryd y bydd eich staff a’ch gwirfoddolwyr yn dechrau gwerthfawrogi’r buddion y gall Copilot ei gynnig o ran cynhyrchiant, creadigrwydd ac arbed amser ac yn aml, bydd hyn yn arwain at ei fabwysiadu’n llawn ar draws y mudiad yn y pen draw.

Mae’r pŵer trawsnewidiol y gall datrysiadau Microsoft Modern Workplace a Copilot AI ei gyflwyno i’ch mudiad gwirfoddol yn gyffrous a gall gynnig adenillion enfawr o fuddsoddi (yn enwedig gan ystyried y grantiau a’r disgowntiau y soniais amdanynt ynghynt)!

*Edrychwch ar y ffilm y gwnaethom ni ei ddangos yn gofod3 i weld Copilot ar waith!

DIOGELWCH 24/7 RHAG BYGYTHIADAU SEIBERDDIOGELWCH UWCH

Mae diogelwch yn rhan hanfodol o Modern Workplace. Yn ogystal â’r mesurau diogelu mwy traddodiadol, fel meddalwedd gwrthfeirysau a gorfodi pobl i ddefnyddio cyfrineiriau cryf a’u diweddaru’n gyson, mae’n bwysig cael adnoddau dilysu aml-ffactor ar waith i sicrhau na all hacwyr fewngofnodi o ddyfeisiau annibynadwy neu leoliadau anarferol, hyd yn oed os ydynt yn gwybod manylion mewngofnodi’r defnyddiwr.

Mae seiberddiogelwch hefyd yn chwarae rôl allweddol wrth ddefnyddio Copilot. Mae sicrhau bod dosbarthiadau dogfennau cyfredol a chaniatáu mynediad cadarn yn eu lle yn hanfodol i sicrhau na all Copilot ddefnyddio neu gael mynediad at adnoddau na ddylai aelod staff neu wirfoddolwr penodol gael mynediad atynt, fel data cyfrinachol gan adnoddau dynol neu reolwyr, trwy esgeulustod (neu hyd yn oed yn fwriadol os mai dyna fwriad y defnyddiwr).

Yn aml, caiff seiberddiogelwch ei ystyried yn bwnc cymhleth a gall rwystro mudiadau gwirfoddol rhag cyflawni eu cenhadaeth, yn enwedig y rheini na allai fod â’u staff TG a seiberddiogelwch eu hunain. Ar sail sgyrsiau rwyf wedi’u cael, rwy’n gwybod nad yw llawer o fudiadau gwirfoddol yng Nghymru yn sicr o ba adnoddau diogelwch y mae ganddynt fynediad ato, a hyd yn oed os ydynt yn gwybod, mae cynllunio sut i’w rhoi nhw i gyd ar waith yn gywir yn ben tost aruthrol!

Mae hyd yn oed mudiadau gwirfoddol sydd â thimau TG a seiberddiogelwch yn aml yn gweld bod yr adnoddau sydd ar gael iddynt yn gyfyngedig. Beth sy’n digwydd pan fydd eich tîm yn cysgu ar eu gwyliau Nadolig? Mae ymosodwyr yn benderfynol a byddant yn cynyddu eu hymdrechion ar yr adegau hyn gan eu bod yn gwybod mai dyma’r adegau y mae mudiadau yn fwyaf agored i niwed.

I drechu hyn, mae datrysiadau diogelu fforddiadwy a reolir 24/7 ar gael, a all rhoi tawelwch meddwl i chi hyd yn oed gyda’r bygythiadau seiberddiogelwch diweddaraf y tu allan i oriau gwaith.

*Neidiwch yn syth i adran ddiogelwch ein sesiwn gofod3 i ddarganfod mwy

CYSYLLTU AC YMHÉL Â CHYFARFODYDD A DIGWYDDIADAU HYBRID!

Gan ystyried yr hyblygrwydd a ddaw gyda Modern Workplace, gyda rhai aelodau o’r tîm yn gweithio gartref ar gyfrifiadur personol bwrdd gwaith, rhai mewn siop goffi gyda gliniadur a chlustffon, ac eraill yn ffafrio mynd i’r swyddfa, mae datrysiadau man cyfarfod hybrid Microsoft Teams yn dod â’ch tîm yn ôl at ei gilydd fel un.

Gall man cyfarfod hybrid ddod ar nifer o wahanol ffurfiau, o ddefnyddiwr gyda gliniadur a chlustffon, yr holl ffordd drwyddo i ystafelloedd cyfarfod llawn adnoddau, mannau cydweithio, neuaddau cymunedol ac unrhyw beth yn y canol. Yn debyg i’n gosodiad ein hunain yn gofod3, mae’r datrysiadau ystafelloedd hyn fel arfer yn cynnwys bwrdd rhyngweithiol mawr i rannu cyflwyniadau a fideos, camerâu o ansawdd uchel, seinyddion a microffonau er mwyn ymhél â phobl un-i-un neu mewn cyfarfodydd grŵp a digwyddiadau hybrid.

Mae gallu cysylltu ac ymhél â phobl o bedwar ban byd ar unwaith yn cyflwyno buddion mawr o ran cynaliadwyedd a chynhwysiant, ac mae bwrdd gwyn digidol yn grymuso eich tîm i rannu sgriniau, cydweithio a thaflu syniadau o unrhyw le. Gall defnyddwyr hefyd ailgydio mewn gwaith oedd ganddynt ar droed ar ddyfeisiau eraill fel gliniaduron personol a llechi ar unrhyw adeg!

Cynaliadwyedd sydd wrth wraidd y datrysiadau man cyfarfod hyn, ac yn ogystal â chyflwyno datrysiad pwrpasol o’r cychwyn cyntaf, gallwch hefyd newid diben unrhyw ddyfeisiau sydd gennych yn barod, gan sicrhau eu bod yn integreiddio’n ddi-dor gyda’ch gosodiad newydd, modern i leihau gwastraff a chostau.

*Edrychwch ar ein bwrdd rhyngweithiol yn gofod3 gyda’r arddangosfa fyw ac astudiaethau achos!

CYSYLLTWCH Â NI!

Am ragor o wybodaeth am unrhyw un o’r pynciau hyn, edrychwch ar y rhannau perthnasol o’n sesiwn yn gofod3 ar y dolenni uchod, neu cysylltwch â’n tîm cyfeillgar o arbenigwyr heddiw a fydd yn gallu eich cynorthwyo ar eich taith ddigidol:

Mae Pugh Computers, ger Aberystwyth, Gorllewin Cymru, yn un o gyflenwyr dibynadwy CGGC ac yn Bartner Microsoft Modern Work Solutions gyda mwy na 43 mlynedd o brofiad o gyflenwi’r sector gwirfoddol. Gan gynnig gwasanaethau dwyieithog yn Gymraeg a Saesneg, mae Pugh yn arbenigo mewn trwyddedau meddalwedd a chydymffurfiaeth, Modern Workplace a diogelwch, a mannau cwrdd hybrid cynaliadwy a chynhwysol.

*Saesneg yn unig

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *